Canon ein llên
Auteur : Tudur Hallam
Date de publication : 2007
Éditeur : University of Wales Press
Nombre de pages : 296
Résumé du livre
Mae'r gyfrol hon yn archwilio datblygiad y cysyniad o lenyddiaeth yn yr iaith Gymraeg o ddyddiau Saunders Lewis hyd heddiw. Dadleua'r awdur mai Saunders Lewis, yn anad neb arall, a gyflwynodd y syniad o gorff o waith a adwaenid fel 'llenyddiaeth Gymraeg'.O dan y label hwn, casglwyd ynghyd rychwant o wahanol destunau ac awduron o wahanol gyfnodau. Prif fyrdwn gwaith beirniadol Lewis oedd tynnu sylw at y meistri llenyddol a'r gweithiau y dylid eu hystyried yn glasuron. Mwy na heb, parhaodd y genhedlaeth nesaf o feirniaid i goleddu'r ffordd hon o ddarllen llenyddiaeth Gymraeg.